Stori Alfi
Bu farw Alfi yn heddlychlon yn mreichiau ei dad ar Fawrth y cyntaf 2015, Dydd Gŵyl Dewi ac yn drist iawn, pen-blwydd priodas Sara a Jason.
“Ers ei farwolaeth, mae Tŷ Hafan wedi bod yn gefnogaeth enfawr i ni. Rydyn ni’n dal i gael cefnogaeth gan ein Gweithiwr Cymorth Teulu ac rydym yn gwybod bod Tŷ Hafan yno i ni pryd bynnag a sut bynnag y byddwn ni eu hangen nhw,” meddai Sara.
“Rydyn ni’n mynd i Tŷ Hafan yn rheolaidd. Ni allaf ddechrau disgrifio’r hyn mae Tŷ Hafan yn ei olygu i ni fel teulu, ond un peth rwyf yn ei wybod yw y byddaf yn ddiolchgar am byth am yr atgofion y maen nhw wedi rhoi cyfle i ni eu creu ac rydym ni’n dal i’w creu hyd heddiw.”