Mae’n deimlad da gwybod bod pob tamaid bach yr ydych chi’n ei wneud bob dydd yn helpu elusen wych fel TÅ· Hafan. Dw i hefyd yn mwynhau hyfforddi’r gwirfoddoli a gweld eu hyder yn tyfu.
- Rowena Lloyd, Dirprwy Reolwr yn ein siop yn Aberystwyth
Mae gwaith ein gweithwyr cyflogedig a’n gwirfoddolwyr yn ein siopau yn helpu i godi arian hanfodol ar gyfer ein gwasanaethau sy’n newid bywydau.Â
Felly, os ydych chi’n chwilio am rôl werth chweil ac amrywiol sy’n wirioneddol trawsnewid bywydau, edrychwch ar ein swyddi gwag presennol.Â
Ar draws de a gorllewin Cymru, mae gennym 18 o siopau lleol sy’n gwerthu amrywiaeth eang o eitemau ail law i ariannu ein gofal a’n cefnogaeth arbenigol.Â
Ym mhob un o’r siopau hyn, rydym yn gwneud ein gorau glas i greu tîm cyfeillgar a chroesawgar sy’n ymgorffori ein gwerthoedd ac sy’n falch o fod yn wyneb TÅ· Hafan.Â
Rydym hefyd yn sicrhau bod ein cyflogeion manwerthu a’n gwirfoddolwyr yn cael y gefnogaeth, yr hyfforddiant a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn eu swyddi.Â
Fel rhan o deulu TÅ· Hafan, rydym am i chi fwynhau eich rôl, symud ymlaen yn broffesiynol, a theimlo cysylltiad â’r plant a’r teuluoedd yr ydych chi’n helpu i’w cefnogi.Â
Oes gennych gwestiwn? Gweler ein hadran Cwestiynau Cyffredin isod.
Gweld ein swyddi gwag diweddarafHawl gwyliau gwych
25 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl ar gyfer swyddi llawn amser ynghyd â gwyliau banc, gan godi i 27 diwrnod ar ôl cyfnod o wasanaethu.
Pensiwn ardderchog
Ymunwch â’n cynllun pensiwn grŵp gyda chyfraniad gan y cyflogwr o 5%.
Rhaglen cymorth i weithwyr
Gallwch chi a'ch teulu elwa ar gymorth arbenigol, gan gynnwys cwnsela.
Gostyngiadau mawr wrth siopa
Gostyngiadau ar y stryd fawr ac ar-lein a allai arbed cannoedd o bunnoedd i chi.
Cynllun beicio i'r gwaith
Gallwch brynu beic a dillad am hyd at £600 a thalu'n ôl drwy eich cyflog.
Yn gysylltiedig â'n gofal
Beth bynnag fydd eich rôl, byddwn yn sicrhau eich bod yn teimlo cysylltiad â'n gwasanaethau gofal a'r teuluoedd rydyn ni'n eu cefnogi.
Beth yw’r broses ymgeisio?
Rwy’n cael trafferth gwneud cais ar-lein?
Mae gen i ragor o gwestiynau am ymgeisio, gyda phwy ydw i’n siarad?
Beth yw’r broses gyfweld?
Beth yw cyfweliad sy’n seiliedig ar gymhwysedd?
Os bydd fy nghyfweliad yn llwyddiannus, pryd galla i ddechrau fy rôl newydd?
Beth yw’r broses gynefino?Â
Alla i gael adborth ar fy nghais neu gyfweliad os nad ydw i’n llwyddiannus?