Cyngerdd Nadolig Neuadd Dewi Sant

Nadolig gyda Chôr Meibion Treorci ac Ysgol Gyfun Treorci

Cyngerdd Nadolig

Dyddiad

4 Rhagfyr 2023

Lleoliad

Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Pris tocynnau

Rhestrir isod

Gwesteion

Côr Meibion Treorci ac Ysgol Gyfun Treorci

Mae’r côr eiconig Côr Meibion Treorci yn sicr o ddod â naws y Nadolig i Neuadd Dewi Sant ac mae’r cyfan er budd hosbis plant Tŷ Hafan. Mae’n argoeli i fod yn noson i’w chofio gydag Ysgol Gyfun Treorci yn cefnogi’r côr a bydd y noson dan arweiniad Lucy Owen sydd wedi cefnogi Tŷ Hafan dros gyfnod hir.

Bydd Côr Meibion Treorci yn dychwelyd i Neuadd Dewi Sant i greu naws Nadoligaidd ac i godi arian y mae mawr ei angen ar gyfer hosbis plant Tŷ Hafan. Bydd y digwyddiad teuluol hwn dan arweiniad Lucy Owen, sydd wedi cefnogi Tŷ Hafan dros gyfnod hir, a bydd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan Gôr Hŷn Ysgol Gyfun Treorci.

Sefydlwyd Côr Meibion Treorci ym 1883 ac mae’n chwedlonol erbyn hyn ac mae wedi cymryd rhan yn y Royal Command Performance ac wedi bod ar ddwsinau o deithiau cenedlaethol a rhyngwladol. Am un noson yn unig, cewch fwynhau noson o ffefrynnau Cymreig a Nadoligaidd yn llawer agosach at adref gyda’r holl elw’n mynd i hosbis plant TÅ· Hafan a fydd yn ein helpu i barhau i ddarparu gofal a chymorth hanfodol i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd yng Nghymru.

Archebwch eich tocynnau heddiw

Archebwch eich tocynnau drwy glicio ar y botwm isod.

Cofrestru

Pris Safonol: £16.00 | £20.00 | £22.00 | £26.00

Yn ogystal â ffi ddewisol o £2.00 i bostio’r tocynnau.

O dan 16 oed: Tocynnau hanner pris

Defnyddiwr cadair olwyn ac un cydymaith (cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): Seddi yn y stalls @ £16.00 y tocyn

Cyngerdd Nadolig
Diolch i noddwyr y digwyddiad Euro Commercials:

Ystyr y Nadolig i Euro Commercials yw cyfnod o ganolbwyntio ar y teulu, gan sicrhau ein bod yn gallu treulio amser gyda’n hanwyliaid a bod yn ddiolchgar am yr hyn sydd gennym. Mae TÅ· Hafan yn ymgorffori hyn bob dydd, gan sicrhau y gall teuluoedd anhygoel sy’n wynebu eu cyfnod anoddaf a mwyaf tywyll fod gyda’i gilydd, gan wneud y gorau o bob munud, yn enwedig ar adeg hudolus y Nadolig. Rydym yn falch iawn o noddi’r digwyddiad hwn am yr ail flwyddyn yn olynol. Nadolig Llawen, Euro Commercials.

Archebwch eich tocynnau heddiw

Archebwch eich tocynnau drwy glicio ar y botwm isod.

Cofrestru