Pa mor anodd yw’r daith?
Mae’r daith hon wedi ei graddio’n ‘heriol’ gan y byddwch yn cerdded dros dir amrywiol, yn agored i uchder (hyd at 4,630m) ac yn cysgu mewn gwersylloedd gyda chyfleusterau sylfaenol. Dylech fod yn barod ar gyfer pob tywydd a thymheredd amrywiol. Mae taith bob dydd rhwng 5-8 awr ac mae rhai bryniau mawr i’w dringo! Mae hon yn her ddygnwch felly fe’ch cynghorir yn gryf i ddatblygu lefel dda o ffitrwydd – po fwyaf ffit y byddwch, y mwyaf y byddwch chi’n mwynhau’r her.
Sut beth yw’r tirwedd?
Bydd y tir serth a’r uchelderau’n ei gwneud yn anodd ar adegau, ond bydd unrhyw un sydd â ffitrwydd da a’r agwedd gywir wrth ei fodd. Mae’r diwrnod cyntaf yn wastadar y cyfan gydag inclein graddol wrth i’r uchder gynyddu, efallai y bydd rhai nentydd bach i’w croesi hefyd. Bydd yr ail ddiwrnod yn anodd gydag esgyniad serth ar dir creigiog i’r bwlch uchel, ac yna disgyniad tonnog drwy’r goedwig law lle gall y tir fod yn fwdlyd ac yn llithrig. Mae’r ddau ddiwrnod nesaf o gerdded i fyny ac i lawr a bydd yn gymysgedd o lwybrau jyngl ac alpaidd, a all fod yn fwdlyd o dan draed. Mae sawl bryn i’w dringo, gan gynnwys dringo serth trwy’r planhigfeydd coffi ar y diwrnod olaf. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich ymarfer yn cynnwys digon o fryniau!
Pa mor bell yw’r daith i Machu Picchu?
Bob dydd byddwn yn cerdded rhwng 6-8 awr yn dibynnu ar gyflymder y grŵp, uchelder, tywydd a serthrwydd y tir. Gan fod llawer o esgyn a disgyn, efallai nad yw’r pellteroedd a gwmpesir bob amser yn swnio’n fawr iawn (8-20km y dydd) ond nid yw hyn yn dangos anhawster y tir a’r bryniau y bydd yn rhaid i chi ddringo.
Ble fyddwn ni’n aros?
Byddwch yn treulio’r tair noson gyntaf mewn gwestai ar sail dwbl (un noson yn Lima a dwy noson mewn gwesty trefedigaethol hanesyddol yn Cusco). Yn ystod y daith byddwch chi’n treulio tair noson yn gwersylla mewn pebyll tri person (dau berson fesul pabell) ac ar noson olaf y daith, byddwch chi’n aros un noson mewn gwesty yn Aguas Calientes am noson dda o gwsg cyn mynd i fyny i Machu Picchu y diwrnod canlynol. Ar ôl y daith byddwch yn treulio dwy noson arall mewn gwesty yn Cusco. Darperir pebyll, matiau cysgu a sachau cysgu ar gyfer gwersylla.
Sut beth yw’r hinsawdd ym Mheriw?
Yr unig beth y gallwch ei ddweud am y tywydd ym Mheriw yw ei fod yn anodd i’w broffwydo. Gallwch gael diwrnodau poeth hyfryd clir yng nghanol y tymor gwlyb a cenllysg yn y tymor sych – mae’n un o atyniadau hyfryd Periw.
Yn yr Andes, mae dau brif dymor – gwlyb a sych. Mae’r tymor gwlyb yn rhedeg o fis Tachwedd i Ebrill a’r tymor sych o fis Mai i fis Hydref. Rydych chi’n debygol o brofi tymheredd cyfartalog yn ystod y dydd o tua 20°C ac isafswm cyfartalog nos tua -l0°C yn ystod y daith.
Eisiau gwybod mwy?
Cofrestru ar gyfer ein noson wybodaeth
Cofrestrwch heddiw gyda Different Travel