Her Antur Haf
Ydych chi’n chilio am weithgareddau i’w gwneud dros wyliau’r haf? Beth am roi cynnig ar Her Antur Haf Tŷ Hafan?
Cofrestru am ddim!
Cofrestru nawrCofrestru am ddim!
Cofrestru nawrDyddiad y digwyddiad
Haf 2024
Lleoliad
Unrhyw le!
Ffi mynediad
Am ddim
Targed nawdd
£25
Ydych chi’n chwilio am weithgareddau i’w gwneud dros wyliau’r haf? Beth am roi cynnig ar Her Antur Haf Tŷ Hafan? Byddwn ni’n rhoi llwyth o syniadau ar gyfer gweithgareddau llawn hwyl y gallwch eu gwneud, a byddwch chi’n codi arian i Hosbis Plant Tŷ Hafan.
Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cwblhau 25 gweithgaredd (neu cymaint ag y gallwch eu gwneud o fewn yr amser!) i ddathlu 25 mlynedd o Hosbis Plant Tŷ Hafan. Gallwch eu gwneud gartref neu ar wyliau, yn yr heulwen neu mewn cawodydd o law – gallwch ddewis pa weithgareddau rydych eisiau eu gwneud, gyda llwyth o syniadau gennym ni!
Gallwch wneud yr her AM DDIM. Gofynnwn i chi godi £25 i gefnogi gwaith Tŷ Hafan gyda phlant a’u teuluoedd yn yr hosbis ac yn y gymuned.
Am godi arian byddwch yn derbyn tystysgrif a medal pan fyddwch yn cyrraedd £25 – perffaith i’w ddangos yng ngwasanaeth yr ysgol ym mis Medi!
Cofrestrwch nawr i dderbyn:
E-bost croeso, gan gynnwys ffurflen noddi a cherdyn bingo gweithgareddau;
Ewch i grŵp Facebook ein Her Antur Haf;
E-gylchlythyr wythnosol gyda hyd yn oed mwy o wybodaeth a syniadau;
Cyfle i ennill gwobrau ar hyd y ffordd;
Tystysgrif a medal ar ôl codi £25.
I wybod mwy cysylltwch â ni ar events@tyhafan.org.
Cofrestru nawrPan fyddwch yn cofrestru i wneud yr her byddwch yn cwbhau hyd at 25 o weithgareddau dros wyliau’r haf. Byddwn yn rhoi cerdyn bingo a diweddariadau rheolaidd i chi i roi syniadau i chi, ond gallwch hefyd feddwl am eich gweithgareddau eich hun, a byddem wrth ein bodd yn clywed amdanyn nhw!
Cliciwch ar y botymau cofrestru uchod. Gan fod y digwyddiad hwn ar gyfer plant, bydd angen i riant neu warchodwr lofnodi ar eu rhan. Os oes gennych unrhyw gwestiynau gallwch gysylltu â ni ar events@tyhafan.org.
Gallwch gofrestru i wneud yr her am ddim.
Gallwch ddechrau’r her cyn gynted ag y byddwch wedi cofrestru! Gofynnwn eich bod yn ceisio ei gorffen tua pythefnos ar ôl diwedd gwyliau’r haf, er mwyn i ni allu anfon eich medalau a’ch tystysgrifau atoch.
Gallwch! Byddem yn dwlu pe byddech yn ymuno â’n grŵp Facebook ar gyfer yr her ond os nad oes gennych Facebook gallwch gymryd rhan o hyd. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi mewn e-gylchlythyr wythnosol.
Does dim ots! Y peth pwysig yw eich bod yn cael hwyl tra byddwch yn cymryd rhan yn yr her ac yn gwneud cymaint o weithgareddau ag y dymunwch.
Nid oes angen i chi brofi eich bod wedi gwneud y gweithgareddau, ond byddem yn dwlu clywed gennych am ba weithgareddau rydych wedi’u gwneud yn ein grŵp Facebook!
Bydd pawb sy’n cofrestru i wneud yr her yn cael tystysgrif pan fydd yr her yn cau ar ddiwedd gwyliau’r haf.
Os byddwch wedi codi £25 neu fwy, byddwch hefyd yn derbyn medal, perffaith i’w arddangos yng ngwasanaeth yr ysgol!
Bydd yr arian y byddwch yn ei godi drwy gymryd rhan mewn her i Tŷ Hafan yn mynd tuag at ein gofal a’n cefnogaeth arbenigol i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd, yn ein hosbis, mewn cymunedau ac mewn cartrefi.
Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan a byddwch yn cael gwybod mwy yn y diweddariadau pan fyddwch yn cofrestru i wneud yr her.