Te i Tŷ Hafan

Beth am gynnal te parti i Tŷ Hafan ym mis Mehefin?

Rydym yn eich gwahodd… i gynnal te parti i helpu i wneud yn siŵr, pan fydd bywyd plentyn yn un byr, na fydd yn rhaid i’r un teulu ei fyw ar eu pen eu hunain.

Cofrestrwch heddiw i gael eich pecyn te parti
Te i Tŷ Hafan

Cynnal te parti Tŷ Hafan

Beth am gymryd rhan yn ymgyrch Te i Tŷ Hafan fis Mehefin!

Gall eich te parti fod yn syml neu yn ogoneddus a bydd faint bynnag y byddwch yn ei godi – bach neu fawr – yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi plant yng Nghymru sydd â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau.

Chi sy’n dewis y lleoliad. Dyma rai syniadau rydym ni’n hoff ohonynt:

  • Eich cartref neu eich gardd
  • Eich stryd
  • Eich neuadd bentref
  • Eich ysgol, coleg neu brifysgol
  • Eich man gwaith.

Pan fyddwch yn cofrestru, byddwn yn anfon pecyn te parti atoch yn y post yn llawn nwyddau Tŷ Hafan i chi a’ch gwesteion.

Os na fedrwch gynnal eich te parti ym mis Mehefin, peidiwch â phoeni! Rhowch wybod i ni pryd yr hoffech ei gynnal, ac fe wnawn ni yn siŵr bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i wneud eich parti yn llwyddiant.

Cofrestrwch heddiw i gael eich pecyn te parti

“Rydyn ni wedi gweithio gyda Tŷ Hafan am sawl blwyddyn nawr ac roedden nhw’n ddigon caredig i arddangos rhai o’n heitemau crefft yn eu ffenest. Pan wnaeth Plas Llanelly gau ar ôl y tân, gwnaeth Alan yn garedig iawn gynnig lle i ni yn y siop i Hearts and Crafts gwrdd.

Roeddem ninnau hefyd eisiau dangos caredigrwydd iddyn nhw felly gwnaethom benderfynu y byddem yn hoffi cynnal bore coffi ym Mhlas Llanelly. Tŷ Hafan yw un o’n hoff elusennau i godi arian ar ei gyfer. Gwnaethom ni fwynhau’r bore yn fawr ac roedd yn wych cwrdd â phobl fel chi a pherthnasau plant sy’n ymweld â’r hosbis. Fe wnaeth roi dealltwriaeth gwell i ni o’r angen, yn sicr, a pha mor bwysig yw codi arian er mwyn gallu parhau a’r gwasanaeth anhygoel y mae Tŷ Hafan yn ei ddarparu. Rydym yn dal i wneud eitemau i’w gwerthu yn y siop ond roedd yn wych gweld cymaint o bobl a oedd eisiau cefnogi’r bore coffi.”

— Grŵp Hearts and Crafts, Llanelli

Cofrestrwch heddiw i gael eich pecyn te parti

Pam mae eich cefnogaeth mor bwysig

£5.2

miliwn

Bob blwyddyn mae angen i ni godi tua £5.2 miliwn i gynnal ein hosbis yng Nghymru sydd o’r radd flaenaf yn y byd, a darparu gwasanaethau cymunedol sy’n newid bywydau.

1,200

o blant wedi'u cefnogi

Ers 1999, rydym yn falch o fod wedi cefnogi bron i 1,200 o blant. Ond dim ond cyfran fach o’r plant sydd angen ein help yw’r rhain.

£50

yn werthfawr iawn

Os byddwch yn codi £50, gallwch oleuo bywyd plentyn sy’n ddifrifol wael gyda sesiwn hwyl a chwarae.

Cyngor gwych i’ch helpu i gynnal eich te parti

Lawrlwytho eich pecyn adnoddau am ddim

Lawrlwytho eich pecyn adnoddau digidol sy'n cynnwys baneri a gwahoddiadau. Rydym ni hefyd yn cynnig pecyn ffisegol i helpu i addurno eich digwyddiad✨

Ystyried ffi mynediad

Peidiwch â bod ofn codi tâl mynediad i'ch digwyddiad yn dibynnu ar ei leoliad a chodi mwy am deisennau mwy o faint sydd â mwy o addurniadau.

Teisennau, toesenni, bara a mwy!

P'un ag y byddwch chi'n prynu eich danteithion neu yn eu pobi gartref, gwnewch yn siŵr bod pris ar bopeth er mwyn i'ch gwesteion allu rhoi arian. Gallech gynnig teisennau, brechdanau, neu fara brith...beth bynnag sy'n mynd â'ch ffansi.

Arian cyfatebol

Gofynnwch i'ch cyflogwr neu fanc lleol a fyddent yn fodlon rhoi rhodd sy'n cyfateb i'r swm y byddwch yn ei godi yn eich te parti.

Penderfynu pryd a ble

Penderfynwch ble a phryd y byddwch yn cynnal eich te parti a faint o bobl yr hoffech eu gwahodd. Gallech gynnal y digwyddiad yn eich cartref, yn eich ffreutur yn y gwaith, yn eich neuadd bentref – byddwch yn greadigol!

Casglu rhoddion – ar-lein neu yn bersonol

Gallwch greu tudalen JustGiving i gasglu unrhyw roddion ar-lein, neu gasglu arian eich hun a'i dalu trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein (gweler isod), yn eich banc lleol, gan ddefnyddio bancio ar-lein neu drwy'r post.

Cwis, raffl neu gystadleuaeth

Gallech gynnal cwis neu ryw fath o gystadleuaeth ar y diwrnod i helpu i ychwanegu amrywiaeth a chodi hyd yn oed mwy o arian.

Siarad â'n tîm codi arian

Siaradwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn ansicr am unrhyw beth. Rydyn ni yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy e-bost i supportercare@tyhafan.org, neu ffoniwch ni ar 029 2053 2255

Cliciwch isod i greu eich tudalen Just Giving a dechrau codi arian heddiw!

JustGiving

Os byddai’n well gennych godi arian heb fod ar-lein, cliciwch yma i’w dalu gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Pecyn codi arian Te i Tŷ Hafan

Beth am gymryd rhan yn ymgyrch Te i Tŷ Hafan fis Mehefin?

Mae gennym amrywiaeth o eitemau i’ch helpu i hyrwyddo eich parti a dod ag ychydig o Tŷ Hafan i’ch dathliadau. Y cyfan sydd ei angen arnoch i gynnal te parti perffaith!

Cofrestrwch i lawrlwytho eich adnoddau heddiw

Sut bydd yr arian y byddwch yn ei godi yn helpu

£25

yn talu a awr o gymorth emosiynol gan weithiwr cymorth teulu, gan helpu teulu i ymdopi â’r heriau bob dydd y maen nhw’n eu hwynebu.

£50

yn talu am awr o therapi cerdd gan roi’r cyfle i blant greu atgofion oes gyda’i gilydd.

£231

yn gallu talu am nyrs sydd wedi ei hyfforddi’n arbennig i ofalu am blentyn trwy gydol y nos er mwyn i mam a dad gael seibiant haeddiannol.

£1361

yn gallu talu am un o’n hybiau cymunedol, lle gall teuluoedd gael cymorth hanfodol, cyfleoedd chwarae a therapïau yn agos i’w cartref

*Prisiau yn gywir yn 2024/25

Sut i dalu’r arian y byddwch yn ei godi

Ar ôl eich te parti, mae’n bryd i chi anfon yr arian yr ydych wedi ei godi atom er mwyn inni allu ei ddefnyddio. Gallwch wneud hyn yn gyflym ac yn ddiogel mewn sawl ffordd.

Talu arian a godwyd

 

Cofrestrwch heddiw i gael eich pecyn te parti!