Te i Tŷ Hafan
Ymunwch â ni i nodi ein 25ain pen-blwydd!
Beth am gynnal eich Te-parti eich hun i ddathlu ein 25ain Pen-blwydd? Trwy gydol mis Mai
Dywedwch wrthym am eich te-parti
Beth am gynnal eich Te-parti eich hun i ddathlu ein 25ain Pen-blwydd? Trwy gydol mis Mai
Dywedwch wrthym am eich te-partiCynnal te-parti Tŷ Hafan Y byd yw eich tebot wrth gymryd rhan yn Te i Tŷ Hafan y gwanwyn hwn!
Gall eich te-parti fod mor odidog neu dawel ag yr hoffech a bydd unrhyw swm y byddwch yn ei godi – dim ots pa mor fawr neu fach – yn mynd yn syth tuag at gefnogi plant yng Nghymru â chyflyrau sy’n byrhau bywyd.
Chi sy’n dewis lle y byddwch yn cynnal y te-parti hefyd. Dyma rai syniadau rydym yn dwlu arnyn nhw:
Pan fyddwch yn cofrestru, byddwn yn anfon pecyn te-parti atoch drwy’r post gyda llawer o addurniadau Tŷ Hafan i chi a’ch gwesteion.
Os na allwch gynnal eich te-parti trwy gydol mis Mai, dim problem! Rhowch wybod i ni pryd hoffech chi gynnal eich te-parti a byddwn yn gwneud yn siŵr bod gennych bopeth i wneud eich parti’n llwyddiant.
Gan fod cyn Dywysog Cymru yn Noddwr i ni, ni allai fod ffordd well o gynnig llwnc destun i’r Brenin newydd a chefnogi Tŷ Hafan mewn un achlysur bendigedig.
I gofrestru, llenwch y ffurflen isod neu anfonwch e-bost i supportercare@tyhafan.org
Bydd y Tîm Gofal Cefnogwyr wrth law bob cam o’r ffordd i’ch helpu gydag awgrymiadau codi arian, deunyddiau cyhoeddusrwydd, Rhodd Cymorth a mwy.
Bob blwyddyn mae angen i ni godi tua £5.2 miliwn i gynnal ein hosbis o’r radd flaenaf yng Nghymru a darparu gwasanaethau cymunedol sy’n newid bywydau.
Ers 1999, rydym yn falch o fod wedi cefnogi bron i 1,200 o blant. Fodd bynnag, ffracsiwn yn unig yw hyn o’r plant y mae angen ein cymorth arnyn nhw.
Os byddwch yn codi £50, mae hynny’n ddigon i dalu am awr o therapi cerdd i blentyn. Amser pan fo modd creu atgofion am oes.
Ar ôl eich te-parti, mae’n amser anfon yr arian rydych wedi’i godi atom a’i ddefnyddio. Mae modd i chi wneud hyn yn gyflym ac yn ddiogel mewn sawl ffordd.
Talu’r arian rydych wedi’i godi