Stori Zach
Roedd Tŷ Hafan yn dawel ac yn ddigynnwrf, felly dyna lle treuliodd Zach ei ddyddiau olaf. Roedd e’ nôl mewn amgylchedd tawel heb yr archwiliadau, y profion a’r nodwyddau cyson. Cafodd e’ le i ymlacio.
Rhowch heddiw
Roedd Tŷ Hafan yn dawel ac yn ddigynnwrf, felly dyna lle treuliodd Zach ei ddyddiau olaf. Roedd e’ nôl mewn amgylchedd tawel heb yr archwiliadau, y profion a’r nodwyddau cyson. Cafodd e’ le i ymlacio.
Rhowch heddiw
O fewn oriau o’i anadl gyntaf, dysgodd rieni Zach ei fod wedi dioddef gwaedu catastroffig ar yr ymennydd pan oedd yn y groth. Cafodd ei yrru mewn ambiwlans brys i ysbyty arbenigol lle treuliodd lawer o’i fywyd byr.
Ydych chi eisiau i Zach gael ei adfywio os na all e’ anadlu drosto’i hun? Faint ydych chi eisiau i ni ymyrryd os yw Zach yn ei chael hi’n anodd? Yn gyflym, fe ddaeth cwestiynau na ddychmygodd mam a thad babi Zach y bydden nhw byth yn cael eu gofyn yn fater o arfer.
Ond fe frwydrodd e’ bob awr o bob dydd i fyw, gan wneud yn well na’r hyn roedd llawer o’i feddygon ymgynghorol yn ei ddisgwyl.
“Roedden ni wastad yn dweud y bydden ni’n gadael i Zach benderfynu. Os oedd e’n brwydro, yna roedden ni’n mynd i frwydro drosto, fe wnaeth y penderfyniad hwnnw. O’r dechrau, fe ddangosodd e’ gryfder a dewrder anhygoel i oroesi.”
Rhowch heddiwAr ôl 10 wythnos hir a heriol, daeth Zach adref. Roedd ei fam a’i dad yn gwybod nad oedd e’n mynd i fod yn hawdd, ond roedden nhw’n benderfynol o wneud y gorau o bob eiliad gyda’i gilydd fel teulu.
Yn ystod eu mis cyntaf gartref, fe wnaethon nhw fwynhau eu trip cyntaf fel teulu, penwythnos hir yn Ninbych-y-pysgod, ac yna gwyliau mewn fan wersylla yn Dorset!
“Roedden ni’n eithaf naïf o ran pa mor wael oedd Zach mewn gwirionedd. Roedd hynny’n well mewn ffordd oherwydd, pe baem ni wedi gwybod, bydden ni wedi bod yn rhy ofnus i fynd ag e’.”
Arosiadau hir yn yr ysbyty oedd y drefn arferol i Zach o hyd, ond fe wnaeth ei fam a’i dad fanteisio ar y dyddiau gwell i greu cymaint o atgofion gwerthfawr ag y gallen nhw.
Felly, pan wnaethon nhw gyfarfod ag Emma o Tŷ Hafan am y tro cyntaf, roedden nhw’n betrusgar. Pan oedden nhw’n meddwl am hosbis, roedden nhw’n meddwl am rywle y mae pobl yn mynd i farw.
Rhowch heddiw“Fe ddysgon ni nad hosbis i blant sâl a gofal lliniarol yn unig yw Tŷ Hafan, mae’n lle sy’n cynnig seibiant a chefnogaeth i’r teulu cyfan, lle gallwch chi ddianc o amgylchedd yr ysbyty.”
Ar ôl rhai sgyrsiau anodd iawn, fe benderfynon nhw fod angen yr holl gefnogaeth y gallen nhw ei chael i sicrhau bod Zach yn byw ei fywyd gorau, waeth pa mor fyr.
“Roedd Zach yn wynebu brwydr newydd bob dydd, ond fe wnaeth Tŷ Hafan ein helpu ni i wneud y gorau o’r dyddiau da a mwynhau amser fel teulu gan wybod bod gennym ni gefnogaeth o’n cwmpas bob amser.”
Yna daeth tro ar fyd.
Roedd Zach ond yn 10 mis oed pan darodd y pandemig, gan olygu mai dim ond un rhiant ar y tro oedd yn cael ei ganiatáu ar ward yr ysbyty.
Rhowch heddiw“Roedd cefnogaeth gan neiniau a theidiau, teulu a ffrindiau wedi’i chyfyngu i ymweliadau mewn ffreuturau a meysydd parcio. Yn ystod y diwrnodau a’r nosweithiau hir yn eistedd wrth ochr gwely Zach, heb i ni allu aros gyda’n gilydd, roedden ni’n aml yn teimlo’n ddiymadferth ac yn unig yn ei wylio’n brwydro.”
Arhosodd Tŷ Hafan ar agor yn ystod y pandemig, gan roi amgylchedd diogel ac ymdeimlad o normalrwydd i Zach a’i fam a’i dad. Fe gawson nhw amser i’r teulu pan oedd ei angen arnyn nhw fwyaf.
Ar ei ben-blwydd cyntaf, roedd Zach gartref, a dathlodd ei fam a’i dad y garreg filltir anhygoel drwy gael parti gyda ffrindiau a theulu ar Zoom.
Ond, unwaith eto, cafodd ei amser gartref ei dorri’n fyr ac roedd Zach nôl yn yr ysbyty.
“Ar ôl rhai diwrnodau a nosweithiau brawychus iawn yn ceisio rheoli ei boen a’i symptomau, fe wnaeth ein milwr bach dewr fownsio nôl unwaith eto a gwneud i ni gyd wenu eto. Ar y diwrnodau da, fe aethon ni am dro i Barc y Mynydd Bychan. Roedd e’n gyfle iddo fod yn fachgen bach yn mwynhau’r awyr iach a’r heulwen.”
Rhowch heddiwYn fuan ar ôl ei ben-blwydd cyntaf, fe ddechreuodd mam a thad Zach gael sgyrsiau am ddychwelyd i Tŷ Hafan. Y tro hwn, ar gyfer gofal diwedd oes.
Roedden nhw’n gwybod nad oedden nhw eisiau i’w bachgen bach farw gartref neu yn yr ysbyty. Byddai bod gartref wedi bod yn rhy anodd, ac roedd yr ysbyty’n rhy glinigol.
“Roedden ni i gyd ar ben ein tennyn, a’r sgyrsiau hyn oedd y rhai anoddaf i ni eu cael erioed.”
Roedd Tŷ Hafan yn dawel ac yn ddigynnwrf, felly dyna lle treuliodd Zach ei ddyddiau olaf. Roedd yn ôl mewn amgylchedd tawel heb yr archwiliadau, y profion a’r nodwyddau cyson. Cafodd le i ymlacio.
“Roedden ni gyda’n gilydd, dim ond y tri ohonon ni, mewn ystafell berffaith yn edrych dros y môr. Dal Zach yn ein breichiau a dweud ffarwel oedd y peth anoddaf y byddwn ni byth yn ei wneud, a byddwn ni’n parhau i ail-fyw’r diwrnod hwnnw am weddill ein hoes.”
Rhowch heddiwYn rhan o’n hymgyrch, rydym yn falch o rannu straeon o’r galon gan dri teulu anhygoel sydd wedi’u heffeithio gan gefnogaeth Tŷ Hafan. Mae pob stori yn fodd pwerus o atgoffa o rôl allweddol eich cyfraniadau wrth roi gofal a chefnogaeth i deuluoedd fel y rhain.
Roedd Tŷ Hafan yno i ni pan roedd Violet yn marw, roedden nhw yno i ni pan fu hi farw ac maen nhw wedi bod yno i ni ers hynny. Dyna y mae ei angen ar bob rhiant pan fydd yn colli plentyn ac mae fy nghalon yn torri o wybod nad yw pob teulu yn cael hynny.
I ddechrau, doeddwn i ddim eisiau mynd yno, roeddem ni’n meddwl mai rhywle yr oedd plant yn mynd i farw ydoedd, ond roeddem ni’n gwbl anghywir. Pan aethom ni yno i edrych o gwmpas, cefais fy syfrdanu. Doedd e ddim yn drist nac yn morbid; mae’n lle hyfryd. Yr adegau y casom ni gyda’n gilydd yn Tŷ Hafan oedd y mwyaf gwerthfawr. Rwy’n trysori’r atgofion hynny.
Roedd ein profiad ni yn Tŷ Hafan yn anhygoel. Gadawom yr hosbis ar ôl i Winnie farw yn teimlo’n ysgafnach, ond roedd ein bywydau wedi troi ar yn ôl a doeddem ni ddim yn gallu gweld y llwybr o’n blaenau. Ond beth bynnag fydd ein llwybr o hyn ymlaen, rydyn ni wedi cael ein cefnogi, ac yn dal i gael ein cefnogi, gan Tŷ Hafan ar y llwybr hwn.