Rydym yn chwilio am 25 o feicwyr brwdfrydig sy’n hoff o rygbi i ymgymryd â Her Beicio i’r Rygbi 2024 ar gyfer Hosbis Plant Tŷ Hafan. 

Wrth i Gymru baratoi ar gyfer eu gêm gyntaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn erbyn Fiji, fe allech chi fod yn eu gwylio yn cystadlu yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm Aviva yn Nulyn fis Chwefror nesaf ar ôl beicio 217 milltir a allai newid bywyd mewn pedwar diwrnod gyda hen ffrindiau a ffrindiau newydd.

Bydd beicwyr yn gadael Stadiwm Swansea.com ar 20 Chwefror ac yn cyrraedd Dulyn bedwar diwrnod yn ddiweddarach i wylio rownd derfynol y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn 24 Chwefror.

Eu nod ar y cyd fydd codi mwy na £45,000 i gefnogi gofal a chymorth Tŷ Hafan sy’n newid bywyd plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd yng Nghymru.

“Mae Beicio i’r Rygbi Tŷ Hafan yn crisialu gwaith tîm, cyfeillgarwch ac ymdrech anferthol!” dywedodd James Davies-Hale, Pennaeth Codi Arian Tŷ Hafan.

“Y llynedd teithiodd ein tîm Beicio i’r Rygbi 221 milltir o Calais i Baris mewn tridiau gan godi miloedd o bunnoedd i Tŷ Hafan yn y broses, a’r digwyddiad yn dod i ben drwy wylio Cymru yn erbyn Ffrainc yn Stade de France.

“Os ydych chi’n mwynhau beicio, yn barod i ganolbwyntio ar nod a hyfforddi er mwyn ei gyflawni ac eisiau bod yn rhan o rywbeth anhygoel, dyma’r her i chi. Ond peidiwch ag oedi, dim ond 25 o leoedd sydd gennym ni ar ôl.”

I wybod mwy, ewch i: https://www.tyhafan.org/events/ride-to-the-rugby/ 

Neu ffoniwch Dîm Gofal Cefnogwyr Tŷ Hafan ar 02920 532 255 neu anfonwch e-bost at events@supportercare.org

Ride to the Rugby Welsh flag duo