“Micaela ydw i, mam i dri mab – Cai, fu farw yn Nhŷ Hafan yn gynharach eleni a’i frodyr iau Harrison a Nico.

“Mae cymaint wedi digwydd yn fy mywyd gyda Cai. Pan oedd yn fach cafodd ddiagnosis prin iawn o Syndrom Vici ac er ei fod wedi marw mae’n gysur mawr i mi y ffordd y digwyddodd a sut y digwyddodd.

“Dyna sut y dewisodd Cai. Roedd wedi cael cymaint o gyfleoedd cyn iddo farw – ond roedd yn gwybod mai’r lle a’r amser iawn iddo ef – oedd yn Tŷ Hafan.

“Ro’n i’n 21 oed pan ges i Cai. Yn bum wythnos oed aeth i’r ysbyty gyda haint cas, ac yna cafodd ataliad ar y galon yn saith wythnos oed. Arweiniodd hyn at anafiadau enfawr i’r ymennydd a’i gadawodd â pharlys yr ymennydd. Rhoddodd y meddygon 24 awr iddo fyw.

“Fe wnaeth Cai oroesi hynny. Yna dywedwyd wrthym na fyddai’n byw y tu hwnt i ddwy oed.

“Roeddwn i wedi fy llorio. Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n galaru am y babi y dylwn i fod wedi’i gael.

“Doedd gen i ddim amser i’w brosesu. Digwyddodd popeth mor gyflym. Roedden ni yn goroesi rhywsut. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn bod fy mab yn dal yn fyw.

“Aethon ni i Tŷ Hafan am y tro cyntaf pan oedd Cai tua blwydd oed. Dyma’r flwyddyn y gwnaeth Tŷ Hafan noddi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd – a gwisgodd Cai ei grys Caerdydd i Tŷ Hafan. Roeddwn i’n falch iawn. Roedd pawb yn ei garu ac roedden nhw i gyd yn rhoi cymaint o sylw iddo.

“Roedd pawb eisiau cwtsh gydag ef ac roedd hynny mor braf. Doedden ni ddim wedi cael hynny pan oedd Cai yn fach – roedd pobl ofn cyffwrdd ag e. Fe roddodd Tŷ Hafan hynny i mi – fe roddon nhw i ni beth oedd wedi bod ar goll.

“Arhosais i a fy ngŵr Matthew yn yr hosbis y troeon cyntaf i Cai fynd yno, ond yna pan sylweddolais fod merched Tŷ Hafan yn gallu gofalu am Cai, fe ddechreuon ni adael iddo fynd ar ben ei hun.

“Cafodd Cai bron i 11 mlynedd yn Tŷ Hafan ac roedd wrth ei fodd yno. Byddai’n chwerthin wrth fynd i fyny’r dreif. Neu’n rolio ei lygaid! Roedd ganddo berthynas â nhw. Gallai fod yn ef ei hun.

“Gallai gael ei ffrindiau yno – cael ffrind i gysgu drosodd. Roedd ganddo ei fywyd bach ei hun yn Tŷ Hafan. Fe allai fynd yno a bod ei hun – yn blentyn, hyd yn oed os oes gennych gyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd, dydych chi ddim eisiau bod o gwmpas mam a dad drwy’r amser.

“Roedd Cai bron yn 12 oed pan fu farw yn Tŷ Hafan.

“Doedd dim brwydr. Doedd e ddim yn ofnadwy. Roedd yn heddychlon. Wnaeth e ddim deffro. Pan fyddwch chi’n profi hyn rydych chi’n gweld pethau’n wahanol.

“Mae’n swnio’n wallgof, ond dydy e ddim. Trwy fywyd Cai, a hyd yn oed ar adeg ei farwolaeth, roedd Tŷ Hafan yn ei wneud yn berffaith, ar gyfer y sefyllfa waethaf yn y byd.

“Fel teulu, rydym yn teimlo mor freintiedig o fod â lle mor anhygoel ar garreg ein drws ac ni allem fod wedi dymuno i dîm gwell o bobl fod yn rhan o’n taith ac i rannu bywyd Cai.”