Roedd Matthew a Micaela yn 21 oed pan gawson nhw eu bachgen bach, Cai.

Heb fawr o dro, trodd y llawenydd o fod yn rhieni tro cyntaf yn dotio ar eu babi at ofn a thorcalon pan aeth Cai yn ddifrifol wael pan oedd ond ychydig wythnosau oed.

Fe wnaeth ataliad ar y galon ei adael gydag anafiadau helaeth i’r ymennydd a pharlys yr ymennydd. Cafodd Matthew a Micaela wybod am y newyddion dirdynnol mai dim ond diwrnod oedd gan eu babi i fyw.

Ond goroesodd Cai y diwrnod canlynol. Ac yna’r nesaf, a’r nesaf. Er ei fod ef dal yn sâl iawn, roedd Matthew a Micaela yn hapus ac yn ddiolchgar bod eu babi’n fyw.

Ond trodd eu rhyddhad yn fwy o drychineb. Cafodd Cai ddiagnosis o gyflwr hynod brin, anwelladwy, syndrom Vici, a olygai y byddai ei fywyd yn fyr.

Dywedodd y tîm meddygol a oedd yn gofalu am Cai na fyddai’n byw y tu hwnt i ddwy flwydd oed, ac y byddai’n byw’r blynyddoedd byr hynny gyda heriau corfforol dwys. Gyda’i calonnau’n ddarnau, fe wnaethon nhw alaru am y bywyd yr oedden nhw wedi’i ragweld gyda’i mab.

Roedd bywyd yn mynd i fod yn wahanol iawn i’r teulu ifanc yma. Yn lle mynd â Cai i ymarfer pêl-droed ar benwythnosau, roedden nhw’n byw bywyd o ansicrwydd wrth ymyl ei wely yn yr ysbyty.

Fe wnaeth tîm meddygol Cai, gynnig atgyfeiriad iddyn nhw i Tŷ Hafan, ond roedd y syniad o Cai yn mynd i hosbis i’w weld mor derfynol ac nid oedd Matthew a Micaela yn barod i ddweud ffarwél.

Pan ddaethon nhw i ymweld â’r hosbis, roedd hi’n wahanol iawn i’r hyn yr oedden nhw wedi’i disgwyl. Roedd hi’n gynnes, yn llachar ac yn gartrefol, yn llawn gwenu a chwerthin. Roedden nhw’n teimlo ar unwaith ei fod yn lle diogel a chyfeillgar, yn llawn cariad a bywyd.

Ond nid oedd amser i brosesu’r hyn a oedd yn digwydd. Trodd yr wythnosau yn fisoedd, ac roedd yn rhaid iddyn nhw fyw am bob diwrnod.

Roedd y pwysau ariannol a’r cyfyngiadau amser a ddaeth yn sgil gofalu am Cai lawn amser yn golygu eu bod nhw braidd yn ymdopi a goroesi. Ond roedden nhw’n gwybod bod Tŷ Hafan yno iddyn nhw bob cam o’r ffordd.

Hyd yn oed drwy’r holl ddyddiau tywyll, byddai Cai yn dod â heulwen.

Roedd ef bob amser yn fachgen bach hapus, yn llawn cymeriad. Dangosodd ddewrder mawr drwy gydol ei daith. Roedd ganddo’r wên fwyaf heintus ac, ar hyd ei oes, fe heriodd yr anfanteision a gafodd eu pentyrru yn ei erbyn.

Pan ddaeth yr amser i ddweud ffarwél, roedd Matthew a Micaela yn gwybod eu bod nhw eisiau i Cai farw’n heddychlon yn Tŷ Hafan. Y foment y daeth ef i mewn i’r hosbis, agorodd ei lygaid. Roedd ef rywle lle’r oedd e’n teimlo’n ddiogel.

Roedd Matthew a Micaela yn adnabod eu bachgen bach, ac roedden nhw’n gwybod mai dyna fyddai ei eiliadau olaf ef. Nid oedd ef erioed wedi bod mor wael â hynny o’r blaen. Roedd ei weld ef felly yn fwy poenus hyd yn oed na’r ffaith na fyddai yma mwyach.

Bu farw Cai pan oedd yn 11 oed. Roedd ei farwolaeth yn heddychol. Nid oedd unrhyw frwydro. Nid oedd yn ofnadwy. Syrthiodd i gysgu ym mreichiau ei dad ac ni ddeffrodd.

Roedd cariad o’i amgylch ym mhobman, a phan fu farw, nid oedd Matthew a Micaela yn teimlo’n unig yn eu galar. Roedden nhw’n teimlo bod staff Tŷ Hafan wedi colli Cai, hefyd. Gwnaeth yr emosiwn, y gefnogaeth a’r cariad y dangosodd aelodau o’r staff iddyn nhw ddod â chysur mawr.

Oherwydd eich haelioni yr oedd yn bosibl i fi fod yno i Matt, Micaela a Cai trwy gydol bywyd, Cai, ei farwolaeth a thu hwnt.

Ond mae mwy o waith i’w wneud. Dim ond gyda rhoddion y byddwn ni’n gallu cyrraedd pob teulu yng Nghymru sydd ein hangen ni. Rhowch help llaw i ni i wneud y Gymru honno’n wirionedd.