Hosbis Plant Tŷ Hafan

Trwy fywyd, marwolaeth a thu hwnt. Pan fydd bywyd plentyn yn fyr, ni ddylai unrhyw deulu orfod ei fyw ar ei ben ei hun.

Nid oes yr un rhiant byth yn dychmygu y bydd bywyd ei blentyn yn fyr. Yn anffodus, dyma’r realiti sy’n wynebu miloedd o deuluoedd yng Nghymru. Gallwn ni ddim atal hyn rhag digwydd, ond gallwn ni sicrhau na fydd neb yng Nghymru yn byw bywyd byr ei blentyn ar ei ben ei hun.

Dysgwch mwy

Sut allwch chi helpu

Gallwch chi helpu i sicrhau na fydd unrhyw deulu yng Nghymru yn wynebu bywyd byr eu plentyn ar eu pen eu hun. Edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd, neu siaradwch â ni am eich syniadau eich hun i godi arian.

Mwy o ffyrdd i'n cefnogi

Raffl Haf 2025

Cymerwch ran yn raffl Haf Tŷ Hafan am gyfle i ennill ein prif wobr wych o £3,000 neu wyliau i Sri Lanka.

Manteisiwch ar gyfle a chwaraewch heddiw!

Chwarae y raffl

Ras 10km Porthcawl 2026

Rydym yn gyffrous i fod yn bartner elusen arweiniol ar gyfer ras 10k Porthcawl yn 2026! Mae Ras 10K Porthcawl yn ras gyffrous yn y dref glan môr sy’n adnabyddus am ei llwybrau syrffio, chwaraeon a’r arfordir.

Cofrestrwch heddiw

Stori Winnie

Roeddem ni yn yr uned gofal dwys pan wnaeth meddyg sôn am Tŷ Hafan am y tro cyntaf. Doedd Anton ddim yn gwybod beth oedd e, ond roeddwn i’n gwybod. ‘Hosbis yw Tŷ Hafan,’ meddyliais. ‘Dydy Winnie byth yn mynd i fynd yno.’

Violet photo frame

Stori Violet

“Roedd Tŷ Hafan yno i ni pan oedd Violet yn marw, roedden nhw yna i ni pan fu hi farw ac maen nhw wedi bod yno i ni bob amser ers hynny.”

Sut allwch chi helpu

Gallwch chi helpu i sicrhau na fydd unrhyw deulu yng Nghymru yn wynebu bywyd byr eu plentyn ar eu pen eu hun. Edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd, neu siaradwch â ni am eich syniadau eich hun i godi arian.

Mwy o ffyrdd i'n cefnogi

Rhoddwch

Ar hyn o bryd, dim ond 1 o bob 10 o’r teuluoedd sydd ein hangen ni y gallwn eu cefnogaeth. Mae hynny’n golygu bod 90% o deuluoedd yng Nghymru sy’n byw gyda’r realiti annirnadwy y bydd bywyd eu plentyn yn fyr yn byw heb y cymorth sydd ei angen arnynt. Cyfrannwch os gwelwch yn dda i helpu pob teulu yng Nghymru y bydd bywyd plentyn yn fyr.

Rhoi Heddiw

Cymryd rhan mewn digwyddiad

Mae cymryd rhan mewn digwyddiad Tŷ Hafan neu drefnu eich digwyddiad eich hun yn ffordd wych o godi arian, gwneud rhywbeth cadarnhaol iawn a chael llawer o hwyl. Felly, dewch ‘mlaen! Gadewch i ni wneud hyn. Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi bweru ein gwaith hollbwysig a helpu i ddarparu cymorth gwerthfawr i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd.

Darllen mwy

Gwirfoddoli gyda ni

Yn Tŷ Hafan, mae llawer o ffyrdd y gallwch gefnogi ein gwasanaethau sy’n newid bywydau fel gwirfoddolwr. O weithio yn un o’n siopau, i ofalu am erddi ein hosbis, ac i helpu mewn digwyddiad Tŷ Hafan.

Darllen mwy

Chwarae ein Loteri

Mae ein loteri boblogaidd iawn, Crackerjackpot, yn ffordd wych o ennill miloedd o bunnoedd a chefnogi ein gwasanaethau sy’n newid bywydau.

Dim ond £1 yw cost pob cyfle i ennill. Mae 81 o wobrau wythnosol wedi eu gwarantu i’w hennill ac mae cymryd rhan wir yn ein cynorthwyo i gyrraedd a chefnogi mwy o deuluoedd ledled Cymru.

Chwaraewch heddiw

Rhoi er cof

Mae rhoi er cof i Tŷ Hafan yn ffordd arbennig o gofio un o’ch anwyliaid a helpu i wneud bywyd byr plentyn yn fywyd llawn.

Bydd eich rhodd hael yn helpu i ariannu gofal a chymorth hollbwysig, pan fo eu hangen fwyaf, yn ein hosbis ac mewn cartrefi a chymunedau ledled Cymru.

Darllen mwy

Ein newyddion diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf am ein gwaith, ein hymgyrchoedd, ein digwyddiadau, y plant a’r teuluoedd rydym yn eu cefnogi a chi, ein cefnogwyr anhygoel.

Darllen ein newyddion diweddaraf
Johnny a Michele
08.07.2025

Gwaddol llawn cariad: Rhodd Johnny a Michele i Tŷ Hafan

Dywedodd Johnny a Michele wrthym ychydig yn ôl eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad arbennig i gyn
08.07.2025

‘Amdanaf fi’ gan Theo

“Helo, fy enw i yw Theo, rwy’n 16 oed ac rwy’n byw gyda fy mam, fy nhad a fy nau frawd, Rowan
Ivy-Mai
08.07.2025

Stori Ivy-Mai

Pan ddewisodd Brooke, oedd yn fam newydd, gael paned o de gyda thîm Tŷ Hafan yn ystod un o nifer o
Cwrdd â Thîm Cymorth i Deuluoedd Gorllewin Cymru
08.07.2025

Cwrdd â Thîm Cymorth i Deuluoedd Gorllewin Cymru

Mae gennym Uchelgais Fawr yn Tŷ Hafan — i gefnogi pob teulu sydd ein hangen ni. O’r teuluoe
cerdd acrostig calon clay
08.07.2025

Mynd ati i greu atgofion

Mae creu atgofion yn rhan annatod o’r hyn rydym yn ei wneud yn Tŷ Hafan. Mae’n ymwneud â chreu

Bu farw Alfi yn heddychlon ym mreichiau ei Dad ar 1af Mawrth. Byddaf yn dragwyddol ddiolchgar am yr atgofion y caniataodd Tŷ Hafan inni eu gwneud a pharhau i’w gwneud hyd heddiw.

- Sara Morris, mam Alfi's

Ein gofal arbenigol

Yn ein hosbis, ac mewn cartrefi a chymunedau yng Nghymru, rydym yn darparu gwasanaethau gofal arbenigol i helpu plant a phobl ifanc sy’n ddifrifol wael i gael hwyl, magu hyder a theimlo’n well, yn gorfforol ac yn feddyliol.

Helpwch i drawsnewid bywydau heddiw

Er mwyn darparu ein gwasanaethau sy’n newid bywydau, mae angen eich help arnom. Drwy roi, codi arian neu wirfoddoli, byddwch chi’n gwneud gwahaniaeth wirioneddol i’r rhai sydd eu hangen.

Cefnogwch ni heddiw, cyfrannwch nawr.

Drwy roi anrheg werthfawr heddiw, gallwch helpu i ddarparu gofal a chymorth arbenigol y mae teuluoedd eu hangen ar frys ar hyn o bryd.

Donate
G Pay logo visa logo visa logo