Mae ein gwirfoddolwyr i gyd yn dilyn cwrs cynefino ar gyfer Tŷ Hafan a’u swyddogaethau gwirfoddoli penodol. Bydd popeth arall y byddwch chi’n ei wneud ar eich diwrnod cyntaf yn dibynnu ar eich swyddogaeth. Ond fel arfer byddwch yn cwrdd â’ch cydweithwyr a chael eich cyflwyno gan bwyll i’r hyn y byddwch yn ei wneud wrth i chi symud ymlaen.