Os ydych yn ymweld â’r DU ar wyliau ac os hoffech wirfoddoli yn ystod eich arhosiad cewch wirfoddoli gyda ni am uchafswm o 30 diwrnod. Wrth wneud cais, rhowch eich cyfeiriad yn DU yn y maes ‘Cyfeiriad’ ar ein ffurflen gais ar-lein
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol sy’n astudio yn y DU, cewch wirfoddoli yn ystod y cyfnod yr ydych wedi cofrestru gyda phrifysgol yn y DU. Rhowch eich cyfeiriad yn y DU yn y maes ‘Cyfeiriad’ ar y ffurflen gais ar-lein.
Os oes gennych gyfyngiadau ar eich fisa sy’n eich atal rhag gwirfoddoli yn y DU, yna yn anffodus ni allwn gynnig cyfle i chi wirfoddoli. Nid ydym yn gallu noddi ceisiadau fisa.