Rhowch wybod os oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd neu anghenion ychwanegol y mae angen i ni wybod amdanyn nhw a allai gael effaith ar eich gwaith gwirfoddol. Yna cawn weld sut y gallwn ni eich cefnogi orau i’ch helpu chi i gyflawni eich swyddogaeth.  

Gallwch ddarparu’r wybodaeth hon yn y blwch ‘gwybodaeth ychwanegol’ ar ein ffurflen gais, neu gallwch drafod eich anghenion gyda ni, er enghraifft, pan fyddwn yn cysylltu â chi ar ôl i chi wneud cais am y tro cyntaf.