Mae profiad gwaith yn Tŷ Hafan ar gael yn ein siopau ac yn ein swyddfeydd yn unig. Fel arfer mae ar gyfer pobl sy’n dechrau ar lwybr gyrfa neu sydd eisiau gwneud rhywbeth i wella eu gyrfa bresennol. Fel arfer mae profiad gwaith yn ddi-dâl ac am gyfnod penodol.
Fel rheol mae gwirfoddoli ar gyfer Tŷ Hafan yn fwy hyblyg na phrofiad gwaith oherwydd mae’n ymwneud â rhoi eich amser pryd bynnag y gallwch chi. Gallwch hefyd wneud ystod ehangach o swyddogaethau fel gwirfoddolwr. Fel yn achos profiad gwaith, ni fyddwch yn cael tâl, ond efallai y cewch dreuliau yn dibynnu ar eich swyddogaeth.