Rydym yn cydnabod y pedair elfen sy’n golygu gofal llwyr: corfforol, emosiynol, cymdeithasol ac ysbrydol. Mae hyn yn golygu ein bod yn darparu pecyn pwrpasol o ofal lliniarol arbenigol i bob plentyn ac aelod o’u teulu.
Mae hyn yn golygu ein bod yn gweithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol i asesu anghenion, cynllunio gofal, rhoi’r gofal hwnnw ar waith ac yna ei werthuso.
Gall ein cymorth gael ei darparu am ddyddiau, wythnosau, misoedd neu flynyddoedd.