Os bydd rhieni plentyn yn fodlon iddo gael ei gyfeirio i Tŷ Hafan, mae angen iddynt gwblhau ffurflen yn rhoi caniatâd i ni ofyn i’w pediatregydd am adroddiad meddygol. 

Mae’n bosibl y bydd angen i ni wedyn gynnal asesiad o blentyn neu berson ifanc cyn cynnig cymorth, sy’n golygu nad yw ein gwasanaethau bob amser ar gael ar unwaith. Fodd bynnag, mae gennym broses atgyfeirio brys, sy’n ein galluogi i gynnig cymorth ar unwaith, os bydd ei angen, e.e. ar gyfer plentyn y mae angen gofal diwedd oes arno.  

Os bydd plentyn neu berson ifanc yn gymwys i ddefnyddio ein gwasanaethau, byddwn wedyn yn nodi ei anghenion ac anghenion aelodau ei deulu er mwyn helpu i lunio rhaglen ofal bersonol.