Gall cyflyrau sy’n byrhau bywyd gwmpasu ystod eang o broblemau iechyd gwahanol, ac nid oes gan bob un ohonynt ddiagnosis penodol. Mae’r plant sy’n gymwys ar gyfer cymorth yn Tŷ Hafan yn debygol o fod ag anghenion iechyd cymhleth iawn ac yn aml bydd ganddynt lu o broblemau anabledd a nam ar y synhwyrau, sy’n golygu bod y tebygolrwydd o farwolaeth yn ystod plentyndod yn uchel. Gall hyn gynnwys plant y mae ganddynt salwch sy’n byrhau bywyd oherwydd cyflyrau a gafwyd fel diffyg ar yr organau a chanser, neu oherwydd digwyddiad acíwt, fel damwain neu haint difrifol, e.e. llid yr ymennydd.