Mae gennym amrywiaeth o weithwyr proffesiynol sydd â phrofiad helaeth o nyrsio gofal lliniarol a chymorth i deuluoedd a all weithio gyda chi, eich Bwrdd Iechyd a phartneriaid gofal cymdeithasol.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- ymgynghorydd gofal lliniarol pediatrig
- nyrsys pediatrig
- gweithwyr cymorth gofal iechyd
- nyrsys anabledd dysgu
- gweithwyr proffesiynol cymorth i deuluoedd
- ffisiotherapyddion
- therapyddion galwedigaethol
- therapyddion cerdd
- arbenigwyr chwarae
- therapyddion cyflenwol