Mae ein hosbis yn cynnwys offer a thechnoleg o’r radd flaenaf er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu’r cymorth gorau posibl i’r plant rydym yn gofalu amdanynt. Ond yn llawer mwy na hyn, mae hefyd yn lle hapus a chartrefol lle gall plant a phobl ifanc gael llawer o hwyl, cwrdd â ffrindiau newydd ac ymlacio. 

Ymhlith y cyfleusterau y mae ystafelloedd chwarae lliwgar, ardaloedd cerdd, ystafelloedd synhwyraidd, pwll hydrotherapi mawr ac ardal bwrpasol i bobl ifanc.

Mae gennym hefyd ddeg ystafell wely breifat i blant, llety i deuluoedd ac ardaloedd hardd yn yr awyr agored i blant a’u teuluoedd eu mwynhau.