Ar hyn o bryd, rydym yn cefnogi tua 270 o blant a’u teuluoedd, tua 50 o bobl ifanc a’u teuluoedd sy’n pontio i wasanaethau oedolion, a tua 120 o deuluoedd mewn profedigaeth. At ei gilydd, ers 1999, mae Tŷ Hafan wedi cefnogi mwy na 650 o deuluoedd yn yr hosbis ac yn y gymuned.
Rydym yn darparu arhosiadau preswyl yn ein hosbis, yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i ddarparu gofal lliniarol arbenigol ar gyfer rheoli symptomau a gofal diwedd oes.