Rydym yn cefnogi ac yn gofalu am blant o adeg eu geni hyd at eu pen-blwydd yn 18 oed. Os bydd person ifanc yn cyrraedd 18 oed, ni fydd yn gallu dod i Tŷ Hafan i gael gofal seibiant byr mwyach, ond rydym yn parhau i’w gefnogi a’i helpu drwy’r cyfnod pontio i wasanaethau oedolion. Gall hyn gynnwys defnyddio hosbis i oedolion.