Y prif fathau o roddion y gallwch eu gadael yn eich ewyllys i Tŷ Hafan yw:
Rhan o’ch ystâd – Ar ôl i chi ddarparu ar gyfer eich teulu a’ch ffrindiau, gallwch adael gweddill eich ystâd i gefnogi ein gwasanaethau hollbwysig. Gelwir hwn yn rhodd weddilliol.
Rhodd arian parod – Gallwch nodi yr union swm o arian yr hoffech ei roi.
Rhodd benodol – Gallwch nodi yn eich ewyllys yr hoffech gynnwys eitem benodol yn eich ewyllys i Tŷ Hafan, er enghraifft gemwaith.