Cefnogwch ni heddiw, cyfrannwch nawr.

Drwy roi anrheg werthfawr heddiw, gallwch helpu i ddarparu gofal a chymorth arbenigol y mae teuluoedd eu hangen ar frys ar hyn o bryd.

£10 £40 £60
G Pay logo visa logo visa logo

Ar hyn o bryd, dim ond 1 o bob 10 o’r teuluoedd sydd ein hangen ni y gallwn ni eu cyrraedd. Mae hynny’n golygu bod 90% o’r teuluoedd yng Nghymru sy’n byw gyda’r gwirionedd na ellid ei ddychmygu, sef y bydd bywyd eu plentyn yn un byr, yn byw heb y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Maent yn aml ar eu pennau eu hunain. Cyfrannwch i helpu pob teulu yng Nghymru y bydd bywyd eu plentyn yn un byr.

Pam mae eich rhodd mor bwysig?

Dim ond oherwydd caredigrwydd ac ymrwymiad ein cefnogwyr hyfryd y gallwn wneud hyn. Mae eich haelioni yn gwbl allweddol er mwyn i ni gyrraedd a rhoi gofal a chymorth arbenigol i blant a theuluoedd sydd yn aml â neb arall i droi ato. Dyma pam y mae eich rhodd mor bwysig heddiw. Gallwch wneud bywyd byr yn fywyd llawn. Gallwch leddfu pwysau di-baid a helpu teuluoedd i greu atgofion y byddant yn eu trysori am byth.

Newid bywydau eich ffordd chi

Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi helpu i bweru ein gofal a’n cymorth arbenigol i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd. Felly, edrychwch o’ch cwmpas. Sut bynnag y byddwch yn dewis ein cefnogi ni fe fydd yn newid bywydau am byth.

Rhoi i ddathlu

Os ydych chi’n dathlu achlysur arbennig fel priodas, pen-blwydd neu ben-blwydd priodas, beth am ei wneud yn un cwbl arbennig trwy godi arian ar gyfer Tŷ Hafan?

donate-in-memory-hero

Rhoi er cof

Mae rhoi er cof i Tŷ Hafan yn ffordd arbennig o gofio un o’ch anwyliaid a helpu i wneud bywyd byr plentyn yn fywyd llawn.

Rhowch rodd arbennig

Drwy gynnwys rhoddion gwerthfawr yn eich ewyllys i Tŷ Hafan, gallwch sicrhau bod llawer mwy o deuluoedd yn elwa ar ein gwasanaethau sy’n newid bywydau ymhell i’r dyfodol.

Woman paying bills online and writing notes at home.

Rhoi o’r gyflogres

Mae Rhoi o’r Gyflogres yn ffordd syml, di-dreth o roi rhoddion rheolaidd i helpu i weddnewid bywydau plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd.

caring-gifts

Anrhegion Gofalgar

Os ydych am roi rhodd wirioneddol ysbrydoledig a chofiadwy i rywun annwyl, beth am un o’n rhoddion gofalu.

Nursing Jobs Ty Hafan

Rhoddion Cylchol

Trwy roi rhodd cylchol, byddwch yn helpu i ariannu gofal a chymorth hanfodol, pan fo ei angen fwyaf, yn ein hosbis ac mewn cartrefi a chymunedau ledled Cymru.

Rhoi hwb i’ch rhodd gyda Cymorth Rhodd

 

Mae Cymorth Rhodd yn golygu bod Tŷ Hafan yn derbyn 25c ychwanegol gan y llywodraeth am bob £1 y byddwch yn ei rhoi – heb i hynny gostio dim mwy i chi!

Felly, os byddwch yn rhoi uchod, cofiwch dicio’r blwch datgan Cymorth Rhodd sy’n ymddangos yng ngham dau. Diolch!

Cymorth Rhodd

Sut i roi eich hen eitemau

Os hoffech roi eitemau yn un o’n siopau yn ne a gorllewin Cymru, darllenwch ein canllawiau hawdd eu darllen yn gyntaf.

I wybod mwy

Sut ydym ni’n ariannu ein gofal hanfodol

Gan ein bod yn elusen heb unrhyw gyllid statudol wedi’i warantu, mae’n allweddol ein bod yn codi ac yn derbyn arian mewn sawl gwahanol ffordd.

I wybod mwy