Cefnogwch ni heddiw, cyfrannwch nawr.

Drwy roi anrheg werthfawr heddiw, gallwch helpu i ddarparu gofal a chymorth arbenigol y mae teuluoedd eu hangen ar frys ar hyn o bryd.

£10 £40 £60
G Pay logo visa logo visa logo

Yn 2022/23, cost gofal yn yr hosbis ac ar draws ein gwasanaethau cymunedol yw £5.6 miliwn. Cyfrannwch heddiw i helpu i barhau â’r gofal a chymorth i blant a theuluoedd.

Pam mae eich rhodd mor bwysig?  

Dim ond oherwydd caredigrwydd ac ymrwymiad ein cefnogwyr hyfryd y gallwn wneud hyn. 

Mae eich haelioni yn gwbl allweddol er mwyn i ni gyrraedd a rhoi gofal a chymorth arbenigol i blant a theuluoedd sydd yn aml â neb arall i droi ato. 

Dyma pam y mae eich rhodd mor bwysig heddiw. Gallwch wneud bywyd byr yn fywyd llawn. Gallwch leddfu pwysau di-baid a helpu teuluoedd i greu atgofion y byddant yn eu trysori am byth. 

Newid bywydau eich ffordd chi 

Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi helpu i bweru ein gofal a’n cymorth arbenigol i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd. Felly, edrychwch o’ch cwmpas. Sut bynnag y byddwch yn dewis ein cefnogi ni fe fydd yn newid bywydau am byth. 

virtual-fundraising-hero

Codi arian yn rhithiol

Gartref, yn yr ysgol ac yn y gwaith, mae llawer o ffyrdd o godi arian i gefnogi ein gwasanaethau.

Cymryd rhan mewn digwyddiad

Mae gennym amrywiaeth anhygoel o ddigwyddiadau rhedeg, beicio a cherdded y gallwch gymryd rhan ynddynt.

leave-a-gift-in-your-will-hero

Gadael Rhodd Yn Eich Ewyllys

Bydd unrhyw rodd y byddwch yn ei adael i Tŷ Hafan yn ein helpu ni i fod yno ar gyfer teuluoedd yng Nghymru ymhell i’r dyfodol.

Rhoi i ddathlu

Troi dathliad arbennig fel priodas, pen-blwydd neu ben-blwydd priodas yn gyfle gwych i godi arian.

donate-in-memory-hero

Rhoi er cof

Beth am gofio am anwylyn mewn ffordd arbennig a helpu i wneud bywyd byr plentyn yn fywyd llawn?

Loteri

Mae ein loteri yn rhoi cyfle i chi ennill 81 o wobrau wythnosol ac ennill £12,000 anhygoel.

Rhoi hwb i’ch rhodd gyda Cymorth Rhodd

 

Mae Cymorth Rhodd yn golygu bod Tŷ Hafan yn derbyn 25c ychwanegol gan y llywodraeth am bob £1 y byddwch yn ei rhoi – heb i hynny gostio dim mwy i chi! 

Felly, os byddwch yn rhoi uchod, cofiwch dicio’r blwch datgan Cymorth Rhodd sy’n ymddangos yng ngham dau. Diolch!  

Find out more about Gift Aid

Sut i roi eich hen eitemau 

Os hoffech roi eitemau yn un o’n siopau yn ne a gorllewin Cymru, darllenwch ein canllawiau hawdd eu darllen yn gyntaf 

I wybod mwy

Sut ydym ni’n ariannu ein gofal hanfodol 

Gan ein bod yn elusen heb unrhyw gyllid statudol wedi’i warantu, mae’n allweddol ein bod yn codi ac yn derbyn arian mewn sawl gwahanol ffordd. 

I wybod mwy