Barod i fod yn anhygoel?  

Ein nod yw rhoi’r gofal a’r gefnogaeth gorau bosibl i sicrhau bod y plant yr ydym yn eu helpu yn byw bywyd llawn. 

Ond y gwir amdani yw mai dim ond gyda chymorth pobl garedig a hael fel chi y gallwn wneud hyn. Mae pob ceiniog yr ydych yn ei chodi drwy eich gweithgareddau codi arian anhygoel yn hanfodol.  

Codi arian

Pam mae eich cymorth mor bwysig

£5.6

miliwn

Bob blwyddyn, mae angen i ni godi tua £5.2 miliwn i gynnal ein hosbis ragorol yng Nghymru a darparu gwasanaethau cymunedol sy’n newid bywydau.

1,200

o blant

Ers 1999, rydym yn falch o fod wedi cefnogi mwy na 1,100 o blant. Eto i gyd, dim ond ffracsiwn o’r plant sydd angen ein cymorth yw hyn.

£50

Dim ond

Os byddwch yn codi £50, mae hynny’n ddigon i dalu am awr o therapi cerdd ar gyfer plentyn. Amser pan fydd atgofion arbennig am oes yn cael eu gwneud.

Codi arian eich ffordd chi 

Pan fyddwch yn ystyried codi arian i Tŷ Hafan, mae gennych lawer o opsiynau. O drefnu eich digwyddiad eich hun i roi cynnig ar un o’n heriau rhedeg, cerdded neu feicio, i godi arian yn y gwaith, eich ysgol neu gartref. 

Beth bynnag y byddwch yn ei ddewis, cofiwch fod ein tîm Codi Arian bob amser yma i ateb eich cwestiynau a gwneud codi arian mor syml a llawn hwyl â phosibl. 

Mae croeso i chi gysylltu â nhw ar supportercare@tyhafan.org. Mae eu hoff bynciau yn cynnwys awgrymiadau gwych ar gyfer codi arian, sut i archebu ein deunyddiau hyrwyddo anhygoel, Rhodd Cymorth a chodi arian mewn modd diogel a chyfreithlon. 

 

fundraising-ideas-hero

Syniadau codi arian

Mae penderfynu pa weithgaredd codi arian yr ydych yn dymuno ei wneud a pha un fydd yn llwyddiant mawr yn gallu bod yn anodd. Dyna pam yr ydym wedi creu rhestr o ddigwyddiadau codi arian llwyddiannus, yn ogystal â rhai syniadau newydd, arloesol. Darllenwch nhw i gael ychydig o ysbrydoliaeth.  

Adnoddau codi arian

Rydym wedi creu canllaw codi arian gwych sy’n llawn cyngor rhagorol, awgrymiadau ymarferol a syniadau codi arian.

Ar ben hyn, mae gennym bosteri, sticeri, balŵns a deunydd hyrwyddo arall sy’n berffaith ar gyfer codi ymwybyddiaeth o’ch gwaith codi arian ac annog pobl i roi yn hael. 

Gyda phwy ydych chi’n codi arian? 

Ar fy mhen fy hun 

Os ydych chi’n codi arian ar eich pen eich hun, rydym yma i’ch helpu chi ac i sicrhau eich bod yn cael profiad codi arian y byddwch yn ei fwynhau’n fawr.  

Bant â ni

Gyda thîm

Os ydych yn codi arian gyda theulu, ffrindiau neu gydweithwyr, mae gennym lawer o awgrymiadau gwych a syniadau codi arian ar eich cyfer chi a’ch tîm. 

Bant â ni

Yn y feithrinfa, yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol 

Gallwch werthu cacennau, cynnal taith noddedig neu noson gwis. Mae llawer o ffyrdd y gall pob ifanc wneud bywyd byr yn fywyd llawn. 

Bant â ni

Yn y gwaith

Gall trefnu gweithgareddau gyda chydweithwyr fod yn ffordd wych o godi llawer o arian, cael tipyn o hwyl a chryfhau’r tîm. 

I wybod mwy

Make it personal to you

Whether you are celebrating a birthday, wedding, organising your own event or celebrating a loved one. You can make your fundraising personal to you.

Trefnu digwyddiad 

Know the fundraiser you’d like to organise or looking for some great ideas? We’re here to help you.

Codi arian er cof 

Gallwch ddathlu bywyd un o’ch anwyliaid mewn amryw o ffyrdd arbennig, gan gynnwys creu tudalen deyrnged i godi arian.  

Rhoi i ddathlu 

Gwnewch briodas, pen-blwydd neu unrhyw ddathliad yn arbennig iawn drwy godi arian i gefnogi gwasanaethau sy’n newid bywydau.  

Sut i dalu’r arian y byddwch yn ei godi 

Ar ôl i chi gwblhau eich gweithgareddau codi arian, mae’n bryd i chi anfon yr arian yr ydych wedi’i godi atom. Gallwch wneud hyn yn gyflym ac yn hawdd mewn sawl ffordd. 

I wybod mwy

Other ways to take part

Rhedeg dros TÅ· Hafan

O 5k i ultra marathon, mae gennym ddewis o ddigwyddiadau rhedeg gwych i chi gymryd rhan ynddynt. 

Beicio dros TÅ· Hafan

Mwynhewch olygfeydd trawiadol a chodi arian ar gyfer ein gwasanaethau hollbwysig drwy roi cynnig ar un o’n digwyddiadau beicio epig.

Cerdded dros TÅ· Hafan

Ewch am dro hir gyda theulu a ffrindiau a helpu ni i gyrraedd a chefnogi mwy o blant a theuluoedd yng Nghymru.

Dywedwch wrthym am eich digwyddiad 

Os ydych chi’n gwybod pa fath o ddigwyddiad rydych yn mynd i’w drefnu a phryd y bydd yn digwydd, llenwch y ffurflen hon. 

    Manylion y digwyddiad

    Your name
    Your email address
    Tell us what you intend to do
    Your event's name
    Date of your event
    Event finish date(optional)
    How much is your group aiming to raise? (optional)
    Why are you raising money for TÅ· Hafan?
    Further information (optional)


    Please tick here to confirm that you are aged 18 or over. If you are under 18, please contact our Supporter Care team on 029 2053 2255 to register your event.