Lle mae bywyd byr yn fywyd llawn 

Ni yw Tŷ Hafan. Rydym yn rhoi cymorth, gofal a chefnogaeth gwerthfawr i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau a’u hanwyliaid. 

Rydym ni’n achubiaeth i deuluoedd sydd yn aml yn byw bywydau llawn straen, sy’n cael trafferth i gael eu clywed ac sydd braidd byth yn mwynhau amser o ansawdd gyda’i gilydd.

Rydyn ni’n credu bod pob plentyn sydd â salwch sy’n cyfyngu ar ei fywyd yn haeddu bywyd llawn hapusrwydd ac adegau ystyrlon.

Dros 1,100

o blant

Rydyn ni wedi cefnogi dros 1,100 o blant
a’u teuluoedd ers i ni agor ein drysau yn 1999.

Dros 50,000

o gefnogwyr

Caiff ein gwaith ei bweru gan
dros 50,000 o gefnogwyr
ynghyd â’n gweithwyr gofal proffesiynol,ein gwirfoddolwyr a’n gweithwyr.

Pwy ydym ni 

Mae Tŷ Hafan yn elusen arweiniol, uchel ei pharch, sy’n rhoi gofal a chefnogaeth sy’n newid bywydau i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywydau a’u teuluoedd sy’n byw yng Nghymru. 

Yn ein hosbis croesawgar a bywiog yn Sili, ac mewn cymunedau a chartrefi ledled y wlad, rydym yn gwneud popeth y gallwn i helpu teuluoedd fwynhau amser gyda’i gilydd a chreu atgofion gwerthfawr. 

Rydyn ni hefyd yn noddfa ddiogel a chariadus pan fo plentyn yn agosáu at ddiwedd ei fywyd, gan roi cysur a gofal arbenigol ar yr adeg anoddaf i’r teulu ac ar ôl hynny.  

Yn syml, rydym yn achubiaeth hollbwysig i’n teuluoedd. Yn lleddfu eu pryderon. Yn rhoi gobaith iddynt y bydd y dyfodol yn well. Ac yn eu helpu i fwynhau bywyd unwaith eto. 

about-us-wide

Beth ydym ni’n ei wneud 

Yn ein hosbis, mewn cymunedau ledled Cymru ac yng nghartrefi teuluoedd, rydym yn darparu gwasanaethau arbenigol i helpu plant a phobl sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywydau i gael hwyl, magu hyder a theimlo’n dda, yn gorfforol ac yn feddyliol. 

 

Rydym hefyd yn asesu anghenion rhieni, brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o’r teulu cyn cynnig cefnogaeth unigol i roi cryfder iddynt, creu atgofion hapus a gwella ansawdd eu bywydau.  

Er hyn, er gwaethaf eu hymdrechion gorau, rydyn ni’n gwybod mai dim ond ffracsiwn o’r teuluoedd sydd angen ein cymorth sy’n ei gael. Felly, rydyn ni’n codi ymwybyddiaeth o’n gwasanaethau sy’n newid bywydau ac yn rhoi pwysau ar y llywodraeth i wneud mwy i helpu yr holl blant sydd â chyflwr sy’n byrhau eu bywydau a’u teuluoedd yng Nghymru. 

Ar ben hyn i gyd, rydym yn ymfalchïo mewn bod yn elusen o’r radd flaenaf ym mhob agwedd. Mae hyn yn golygu ein bod yn gwneud ein gorau i greu profiadau rhagorol i gefnogwyr a gwirfoddolwyr. Rydym yn mynd y tu hwnt i fod yn gyflogwyr hyd yn oed gwell. Ac rydym yn gweithio’n galed i greu a chynnal y partneriaethau gorau posibl.

Ein gweledigaeth

Cymru lle mae’r holl blant sydd â chyflwr sy’n byrhau eu bywydau yn byw bywydau sy’n rhoi boddhad, gyda’r gefnogaeth dosturiol a’r gofal arbenigol y mae eu hangen arnyn nhw a’u teuluoedd. 

Ein gweledigaeth

Byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth drwy ddarparu gofal a chefnogaeth arbenigol am ddim i blant a phobl ifanc sydd â chyflwr sy’n byrhau eu bywydau a’u teuluoedd sy’n bodloni eu holl anghenion. 

Byddwn yn darparu ein gwasanaethau sy’n newid bywydau yn ein hosbis groesawgar a bywiog, mewn cymunedau ledled Cymru ac yng nghartrefi’r teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi.

Byddwn hefyd yn rhoi pwysau ar bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau i wneud mwy i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sydd â chyflwr sy’n byrhau bywyd yng Nghymru yn byw bywyd o ansawdd da

Archwiliwch fwy amdanom ni

our-story

Ein stori

Dysgwch am wreiddiau Tŷ Hafan, ein cysylltiad â’r Dywysoges Diana a sut y mae ein helusen a’n gwasanaethau wedi parhau i ddatblygu ers i ni agor yn 1999.

how-were-funded

Ein Cyllid

Y gwahanol ffyrdd yr ydym yn codi ac yn derbyn arian i ariannu ein gofal sy’n newid bywydau.

our-board-and-executive-team

Ein bwrdd

Cwrdd â’n cadeirydd, ymddiriedolwyr, y prif weithredwr ac aelodau’r tîm gweithredol. Pobl sydd â rhan allweddol wrth helpu Tŷ Hafan i ddarparu’r gofal gorau posibl.

join-our-team

Gyrfaoedd

Os ydych chi’n chwilio am rôl ysbrydoledig sydd wir yn helpu i newid bywydau, edrychwch ar y swyddi gwag presennol yn Nhŷ Hafan.

Ein hadroddiadau a’n dogfennau

Dogfennau allweddol gan gynnwys ein hadroddiad blynyddol a’r adroddiad diweddaraf gan AGIC.

our-political-work

Gwaith Gwleidyddol

Dysgwch sut yr ydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac aelodau’r Senedd.

Ein newyddion diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf am ein gwasanaethau, ein hymgyrchoedd, ein digwyddiadau, y plant a’r teuluoedd gwych rydyn ni’n eu cefnogi a’n cefnogwyr anhygoel.

Darllen ein newyddion diweddaraf
19.04.2024

Ein huchelgais mawr

Ers i ni ddechrau cefnogi teuluoedd yn 1999, mae Tŷ Hafan wedi cefnogi 1,097 o blant a theuluoedd d
Cai's story front cover
19.04.2024

Stori Cai

Roedd Matthew a Micaela yn 21 oed pan gawson nhw eu bachgen bach, Cai. Heb fawr o dro, trodd y llawe
19.04.2024

Newyddion gan ein gwasanaethau gofal

Sbotolau ar… Jemma ein Nyrs Glinigol Gofal Newydd-anedig Arbenigol Yn ein rhifyn diwethaf, gwn
Amy Campbell
19.04.2024

Diwrnod ym mywyd… Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd

Mae Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd yn rhan allweddol o’n Tîm Llesiant ac Allgymorth i Deuluoedd. Y
19.04.2024

‘Amdanaf i’ gan Pavil

Cefais i fy ngeni gyda nifer o broblemau meddygol, gan gynnwys clefyd cronig yr arennau ac anghysond