Cymryd rhan mewn digwyddiad

Mae cymryd rhan mewn digwyddiad Tŷ Hafan neu drefnu eich digwyddiad eich hun yn ffordd wych o godi arian, gwneud rhywbeth cadarnhaol iawn a chael llawer o hwyl.  Felly, dewch ‘mlaen! Gadewch i ni wneud hyn. Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi bweru ein gwaith hollbwysig a helpu i ddarparu cymorth gwerthfawr i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd. 
archive page header image

Cerdded

 | 

Digwyddiad

06.06.2026

Welsh 3 Peaks

Nid ar gyfer y gwangalon y mae ein Her 3 Chopa Cymru. Bydd eich tîm yn ymuno â theithwyr o bob cwr o’r byd i gerdded pellter o 20.35 milltir, sy’n golygu dringo 9,397 troedfedd (2,864m) i gyrraedd copaon Yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen-y-Fan.

Digwyddiad

 | 

Rhedeg

05.07.2026

Ras 10km Porthcawl

Mae Ras 10K Porthcawl yn ras gyffrous yn y dref glan môr sy'n adnabyddus am ei llwybrau syrffio, chwaraeon a'r arfordir.

Dan sylw

 | 

Digwyddiad

 | 

Rhedeg

4th Hydref 2026

Hanner Marathon Caerdydd

Cymerwch ran yn Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer Tŷ Hafan
Peru Trek Ty Hafan 2027
30 Ebrill - 10 Mai 2027

Taith Machu Picchu 2027

Ymunwch â thîm Tŷ Hafan ar daith i noddfa hanesyddol Machu Picchu. Pleidleidleisiwyd y daith hon yn un o'r 25 orau yn y byd. Bydd yn mynd a chi dros gopaon anhygoel yr Andeas, trwy dirwedd epig Periw a'r coedwigoedd cwmwl niwlog.

Eich cefnogi chi

Os ydych yn hen law ar godi arian neu’n ystyried cynnal eich digwyddiad cyntaf, roeddem eisiau i chi wybod ein bod ni yma i’ch cefnogi.

Gall ein tîm codi arian profiadol iawn ateb eich holl gwestiynau, rhoi hwb i chi pan fo angen, a gwneud cynnal digwyddiad yn llawer haws.

Felly, mae croeso i chi gysylltu â ni ar events@tyhafan.org neu 029 2053 2255. Mae ein hoff bynciau yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ddigwyddiadau penodol ac awgrymiadau codi arian i helpu i godi llwyth o arian.

Adnoddau codi arian ar eich cyfer chi

Rydym wedi creu canllaw codi arian gwych sy’n berffaith ar eich cyfer chi. Mae’n llawn cyngor gwych, awgrymiadau ymarferol a syniadau codi arian.

Ar ben hyn i gyd, mae gennym bosteri, sticeri, balŵns a deunydd hyrwyddo arall y gallwch ei gael am ddim. Maent yn berffaith ar gyfer denu sylw at eich digwyddiad codi arian a’i wneud yn llwyddiant mawr.

Fundraising Resources
virtual-fundraising-hero

Codi arian yn rhithiol

Ydych chi’n gwybod pa ddigwyddiad codi arian yr hoffech ei drefnu? Neu ydych chi’n chwilio am syniadau i’ch ysbrydoli? Pa bynnag gam yr ydych arno, gallwn eich helpu i godi llwyth o arian a chael llawer o hwyl.

organise-your-own-event

Trefnu eich digwyddiad eich hun

Ydych chi’n gwybod pa ddigwyddiad codi arian yr hoffech ei drefnu? Neu ydych chi’n chwilio am syniadau i’ch ysbrydoli? Pa bynnag gam yr ydych arno, gallwn eich helpu i godi llwyth o arian a chael llawer o hwyl.