Yn y rhifyn hwn, cewch gwrdd â Bwrdd Ieuenctid Tŷ Hafan, a darllen am ddiwrnod ym mywyd Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd, y newyddion diweddaraf gan ein gwasanaethau gofal, stori Cai, a llawer mwy.
Trodd llawenydd Matthew a Micaela o fod yn rhieni am y tro cyntaf i dorcalon yn gyflym pan aeth Cai yn ddifrifol wael pan oedd ond ychydig wythnosau oed.
Dychmygwch Gymru lle mae gan bob plentyn fynediad at y gwasanaethau y eu hangen arnyn nhw, lle mae eu hangen a phryd mae eu hangen. Cymru lle mae gan deuluoedd ddewis am y gofal y maen nhw’n ei gael. Cymru lle nad yw unrhyw deulu yn wynebu marwolaeth eu plentyn ar eu pennau eu huanin. Nid dim ond dychmygu’r Gymry hon ydym ni, rydym ni’n credu ynddi.
Mae 2024 yn brysur fynd rhagddo ac mae gennym lwyth o ddiweddariadau gan ein gwasanaethau gofal yn yr hosbis ac yn y gymuned yr ydym yn falch iawn o’u rhannu gyda chi.
Mae Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd yn rhan allweddol o’r Tîm Llesiant ac Allgymorth Teuluoedd. Yn ogystal â gweithio yn yr hosbis, maen nhw’n gweithio mewn cymunedau lleol yng Nghymru i wneud yn siŵr bod teuluoedd yn cael y cymorth arbenigol y mae ei angen arnyn nhw, lle bynnag y mae ei angen arnyn nhw.
Mae’r bobl ifanc sy’n dod i Tŷ Hafan yn llawn dop o syniadau gwych ac angerdd dros wneud gwahaniaeth, felly y llynedd fe ddechreuom ni Fwrdd ieuenctid cyntaf erioed Tŷ Hafan!