Cefnogwch ni heddiw, cyfrannwch nawr.

Drwy roi anrheg werthfawr heddiw, gallwch helpu i ddarparu gofal a chymorth arbenigol y mae teuluoedd eu hangen ar frys ar hyn o bryd.

£10 £40 £60
G Pay logo visa logo visa logo

Ar hyn o bryd, rydym ond yn gallu cyrraedd 1 o bob 10 teulu sydd ein hangen ni. Mae hynny’n golygu bod 90% o deuluoedd yng Nghymru sy’n byw gyda’r realiti annirnadwy y bydd bywyd eu plentyn yn fyr, yn byw heb y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Yn aml maen nhw ar eu pennau eu hunain. Rhowch i helpu pob teulu yng Nghymru y bydd bywyd ei blentyn yn fyr.

Mae eich haelioni’n hanfodol

Mae rhoi gofal a chymorth yn rhywbeth y gallwn ond ei wneud oherwydd eich caredigrwydd a’ch ymrwymiad chi. Mae eich rhoddion mor bwysig. Byddan nhw’n ein helpu ni i gyrraedd pob teulu yng Nghymru sydd ein hangen ni. Fydden ni wir ddim yn gallu gwneud hyn hebddoch chi.

Newid bywydau eich ffordd chi

Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi helpu i bweru ein gofal a’n cymorth arbenigol i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd. Felly, edrychwch o’ch cwmpas. Sut bynnag y byddwch yn dewis ein cefnogi ni fe fydd yn newid bywydau am byth.

Rhoi i ddathlu

Os ydych chi’n dathlu achlysur arbennig fel priodas, pen-blwydd neu ben-blwydd priodas, beth am ei wneud yn un cwbl arbennig trwy godi arian ar gyfer Tŷ Hafan?

donate-in-memory-hero

Rhoi er cof

Mae rhoi er cof i Tŷ Hafan yn ffordd arbennig o gofio un o’ch anwyliaid a helpu i wneud bywyd byr plentyn yn fywyd llawn.

Rhowch rodd arbennig

Drwy gynnwys rhoddion gwerthfawr yn eich ewyllys i Tŷ Hafan, gallwch sicrhau bod llawer mwy o deuluoedd yn elwa ar ein gwasanaethau sy’n newid bywydau ymhell i’r dyfodol.

Woman paying bills online and writing notes at home.

Rhoi o’r gyflogres

Mae Rhoi o’r Gyflogres yn ffordd syml, di-dreth o roi rhoddion rheolaidd i helpu i weddnewid bywydau plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd.

caring-gifts

Anrhegion Gofalgar

Os ydych am roi rhodd wirioneddol ysbrydoledig a chofiadwy i rywun annwyl, beth am un o’n rhoddion gofalu.

Nursing Jobs Ty Hafan

Rhoddion Cylchol

Trwy roi rhodd cylchol, byddwch yn helpu i ariannu gofal a chymorth hanfodol, pan fo ei angen fwyaf, yn ein hosbis ac mewn cartrefi a chymunedau ledled Cymru.

Rhoi hwb i’ch rhodd gyda Cymorth Rhodd

 

Mae Cymorth Rhodd yn golygu bod Tŷ Hafan yn derbyn 25c ychwanegol gan y llywodraeth am bob £1 y byddwch yn ei rhoi – heb i hynny gostio dim mwy i chi!

Felly, os byddwch yn rhoi uchod, cofiwch dicio’r blwch datgan Cymorth Rhodd sy’n ymddangos yng ngham dau. Diolch!

Cymorth Rhodd

Sut i roi eich hen eitemau

Os hoffech roi eitemau yn un o’n siopau yn ne a gorllewin Cymru, darllenwch ein canllawiau hawdd eu darllen yn gyntaf.

I wybod mwy

Sut ydym ni’n ariannu ein gofal hanfodol

Gan ein bod yn elusen heb unrhyw gyllid statudol wedi’i warantu, mae’n allweddol ein bod yn codi ac yn derbyn arian mewn sawl gwahanol ffordd.

I wybod mwy