Cyn ymuno â ni yn 2013, cafodd John brofiad o farchnata digidol ac uniongyrchol ar draws ystod amrywiol o sectorau. I ddechrau, roedd yn gyfrifol am ein loteri Crackerjackpot, ond mae hefyd wedi ymgymryd â sawl swydd arall yn ein...
Ymunodd Jason â Thŷ Hafan ym mis Mehefin 2017 ac mae’n arwain ein swyddogaeth gwasanaethau cyllid a chymorth, ac ef yw ein dirprwy Brif Weithredwr. Mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn swyddi cyllid uwch ar draws...
Daeth Debbie yn gyfarwyddwr gofal ym mis Mawrth 2020 ac mae hi wedi ein helpu i gyflawni gofal hosbis gwych mewn swyddi arwain blaenorol. Yn Tŷ Hafan, Debbie sy’n gyfrifol am ddatblygu gwasanaethau ar gyfer ein plant a’n teuluoedd ac...
Ymunodd Mick â bwrdd Tŷ Hafan yn 2021, yn dilyn ei ymddeoliad o Lywodraeth Cymru, lle’r oedd yn gyfarwyddwr twf a datblygiad economaidd. Cyn hyn, bu Mick yn gweithio am 30 mlynedd mewn gwasanaethau ariannol, gan ddal nifer o swyddi...
O 1998 tan iddi ymddeol yn 2019, roedd Helen yn feddyg seiciatryddol ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae hi’n arbenigwr mewn salwch meddwl cymhleth, awtistiaeth ac anableddau dysgu. Bu Helen yn is-lywydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac yn...
Mae Liz yn uwch reolwr ym mhractis ymgynghori seilwaith, llywodraeth a gofal iechyd KPMG, yn arbenigo mewn cyflawni gwasanaethau grant ac archwilio mewnol. Mae hi hefyd yn aelod o’r  Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ac mae hi’n byw yng...
Sian yw’r unig nyrs ymgynghorol ar gyfer plant yng Nghymru ac mae hi wedi ei lleoli ym Mwrdd iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae ei swydd yn cynnwys gwella gofal cleifion trwy ddatblygu gwasanaethau, ymchwil, addysg a strategaeth. Mae Sian wedi...
James yw prif swyddog gweithredol Vista, cwmni gwasanaethau technoleg a’i brif swyddfa yng Nghymru. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes cefnogaeth dechnoleg allweddol busnes ac mae wedi gweithio gyda llawer o gwmnïau i’w helpu i...