Mae popeth yn iawn os newidiwch eich meddwl am fod yn wirfoddolwr tra byddwch yn gwirfoddoli gyda ni. Ond cysylltwch â ni ar volunteering@tyhafan.org ynghylch hyn, fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion a rhoi gwybod i’ch rheolwr llinell neu gydlynydd. ...
Cysylltwch ar unwaith â’n tîm gwirfoddoli drwy e-bost, volunteering@tyhafan.org neu ffoniwch 029 2053 2254. Weithiau mae negeseuon e-bost yn mynd i’r ffolder sothach neu fe rifau ffôn yn cael eu nodi’n anghywir.
Byddwch. Mae angen elfen o hyfforddiant ar gyfer pob swyddogaeth. Ond bydd faint o hyfforddiant y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich swyddogaeth. Er enghraifft, byddwch yn cael hyfforddiant hirach, mwy cynhwysfawr os ydych chi’n mynd i fod...
Mae ein gwirfoddolwyr i gyd yn dilyn cwrs cynefino ar gyfer Tŷ Hafan a’u swyddogaethau gwirfoddoli penodol. Bydd popeth arall y byddwch chi’n ei wneud ar eich diwrnod cyntaf yn dibynnu ar eich swyddogaeth. Ond fel arfer byddwch yn cwrdd...
Yn gyffredinol, gallwch wirfoddoli a chael treuliau a’ch budd-daliadau, cyn belled â’ch bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau perthnasol. Ond y peth gorau i’w wneud yw siarad â chynghorydd yn eich Canolfan Byd Gwaith a rhoi gwybod iddyn nhw eich bod...
Cewch wneud cais am unrhyw swyddogaeth. Neu gallwch gysylltu â’n tîm Gwirfoddoli a byddwn yn trafod eich diddordebau a’n holl swyddogaethau gyda chi, i ganfod beth sy’n ymddangos yn addas i chi.
Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw amser y gallwch chi ei roi. Efallai y byddwch yn gwirfoddoli am ddwy awr yr wythnos yn unig neu ar gyfer digwyddiadau unigol, neu efallai y byddwch yn rhoi mwy o’ch amser. Mae wir yn dibynnu...
Rhaid i bob gwirfoddolwr ddangos prawf o’i hunaniaeth wrth wneud cais. Ar gyfer rhai swyddogaethau efallai bydd angen i chi ddarparu dogfennau ychwanegol, er enghraifft, os oes angen i chi basio gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer...